Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Ionawr 2021
Amser:
13.30 -
16.53
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11082
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Huw Irranca-Davies AS Mark Isherwood AS Delyth Jewell AS Mandy Jones AS |
Tystion: |
Jon Rae, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Llinos Medi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dr Chris Llewelyn, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Sam Rowlands |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - sesiwn dystiolaeth 1: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn
· Y Cynghorydd Sam Rowlands, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
· Chris Llewelyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
2.2 Yn ystod y cyfarfod cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gadarnhau a oes asesiad ar gael o'r effaith y mae siopau gwag wedi'i chael ar y refeniw a gasglwyd o ardrethi annomestig ers dechrau'r pandemig ac i chwilio am wybodaeth am y rhyddhad sydd ar gael i fusnesau bach.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â data cwynion y GIG
3.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â data cwynion y GIG.
3.2 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch diogelwch tân mewn?adeiladau uchel iawn
3.2.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn.
3.3 Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip mewn perthynas ag effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol
3.3.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas ag effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol.
3.4 Llythyr oddi wrth Sefydliad Bevan at y Prif Weinidog mewn perthynas â thlodi a COVID-19
3.4.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Sefydliad Bevan at y Prif Weinidog mewn perthynas â thlodi a COVID-19.
3.5 Cyflwyniad gan Sefydliad Bevan ynghylch tlodi yn y gaeaf a COVID-19
3.5.a. Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad gan Sefydliad Bevan mewn perthynas â thlodi yn y gaeaf a COVID-19.
3.6 Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y Bil Cam-drin Domestig
3.6.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.
3.7 Llythyr ar y cyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22
3.7.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - trafod y dystiolaeth
5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - trafod yr adroddiad drafft
6.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a nifer o newidiadau.
7 Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro
7.1. Trafododd y Pwyllgor y cynnig drafft, yr adroddiad drafft a’r telerau ac amodau drafft ar gyfer penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro, gan gytuno arnynt.
8 Trafod y llythyr drafft at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cysgu ar y stryd yng Nghymru
8.1. Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol gan gytuno arno, yn ddarostyngedig i fân newidiadau.